Plays: Medeia

Gwynewth Lewis - Medeia

'Rwy'n cerdded lôn greulon - a chreulonach fyth Yw'r ffordd y gosodais fy meibion arni.'

Medeia - wyres yr Haul, sy'n briod â gwr meidrol, Iason. Er iddi ddefnyddio ei doniau hud i'w helpu, mae e'n ei bradychu hi a'u meibion. Yn ei hargyfwng, mae Medeia'n troi at ei phwerau goruwchnaturiol - gyda chanlyniadau erchyll.

Dyma drasiedi fawr Euripides am chwant a marwolaeth.

Daw geiriau Gwyneth Lewis â chyfoesedd i'r ddrama glasurol hon a gomisiynwyd gan CBAC a Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma'r drydedd ddrama i'r bardd ei chyhoeddi - y ddwy arall yw: Y Storm (2012) cyfieithiad o The Tempest Shakespeare a lwyfannwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru, a drama wreiddiol, Clytemnestra, a berfformiwyd gan Sherman Cymru (2012).

Bookmark this page / Llyfrnodi gyda