Apwyntiwyd Gwyneth Lewis yn Fardd Cenedlaethol cyntaf Cymru o
2005-06.
Cyhoeddodd chwe chyfrol o farddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg, yn
cychwyn gyda Sonedau Redsa (Gomer, 1990), cerdd hir i'w merch fedydd
yn ynysoedd y Philippine. Cyrhaeddodd Cyfrif Un ac Un y Dri
Barddas, 1996) restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau
Cymru, ac enillodd Y Llofrudd Iaith (Barddas, 1999) y brif wobr. Perfformiwyd y cerddi fel drama gan fyfyrwyr Adran Astudiaethau
Theatr, Ffilm a Theledu Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Cyhoeddwyd Tair Mewn Un: Cerddi Detholedig gan Barddas ym 2006.
Cyfansoddodd Gwyneth y geiriau ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru ym
Mae Caerdydd, ac fe'i mabwysiadwyd yn Fardd Cymuned Cil-y-cwm. Fel
rhan o'r gwaith hwnnw, rhoddwyd perfformiad cyntaf opera ddwyieithog
Redflight/ Barcud mewn pabell yn y pentref ar ddydd Gwyl Dewi 2005.
Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Richard Chew, ac fe gyflwynwyd y
darn gan Gwmni Opera Genedlaethol Cymru a phlant Ysgolion Cil-y-cwm
a Chapel y Cynfab, Cynghordy. Mae Gwyneth hefyd wedi ysgrifennu
geiriau oratorio i Gorws Opera Genedlaethol Cymru a phum cant o
leisiau, i'w berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a libretto Dolffin, cerddoriaeth gan Julian Philips. Bu Gwyneth yn Fardd Preswyl yn Adran Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd tan Nadolig 2005.
Yn Saesneg cyhoeddodd Parables & Faxes (Bloodaxe, 1995), Zero
Gravity (Bloodaxe, 1998) a Keeping Mum (Bloodaxe 2003), cyfrol sy'n
cynnwys cyfieithiad rhannol o'r Llofrudd Iaith. Mae Gwyneth wedi
ysgrifennu dau lyfr ffeithiol: Sunbathing in the Rain (Flamingo,
2002), yn ymdrin ag iselder ysbryd, a Two in a Boat (Fourth Estate,
2005) yn adrodd hanes mordaith o Gaerdydd i Ogledd Affrica, yn dilyn
trywydd y farchnad lo o'i phorthladd genedigol.
Cafodd Gwyneth ei haddysg yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ac enillodd y
Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd yn y Barri (1977) a
Llanelwedd (1978). Astudiodd Saesneg yng Nghaergrawnt a threuliodd
dair blynedd yn yr Unol Daleithiau fel Cymrodor Harkness a
dychwelodd i Rydychen i ysgrifennu doethuriaeth ar waith Iolo
Morganwg cyn dychwelodd i Gymru a gweithio fel cynhyrchydd teledu.
Gadawodd y BBC i ysgrifennu'n amser llawn ym 2000. Mae'n aelod o'r
Academi ac yn Gymrawd NESTA, ac yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol
Caerdydd.