Canolfan Mileniwm Cymru

CREU GWIR FEL GWYDR O FFWRNAIS AWEN

IN THESE STONES HORIZONS SING

Canolfan Mileniwm Cymru

Cyfansoddais y geiriau ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru er mwyn cyfleu uchelgais ddiwylliannol y sefydliad. Fe'm hysbrydolwyd gan orffennol diwydiannol Cymru a chan gofio mai Caerdydd, ar un adeg, oedd prif borthladd glo y byd . Mae llythrennau'r arysgrifen chwe troedfedd o uchder wedi eu creu o wydr lliw a osodwyd mewn gypsum wedi ei gryfhau gan wydr.

Creu Gwir fel Gwydr o Ffwrnais Awen

Roeddwn i'n awyddus i weld yr arysgrifen yn adlewyrchu pensaerniaeth yr adeilad. Roedd cromen gopr y theatr yn fy atgoffa o ffwrneisi gorffennol diwydiannol Cymru, ac hefyd o Bair Ceridwen, crochan lle cafodd y bardd cynnar Taliesin ei awen. Nid yw'r gair 'awen' yn gyfyngedig i ysbrydoliaeth farddonol, ond mae'n cyfeirio hefyd at y weledigaeth greadigol sy'n creu delfrydau cymdeithasol.

Roedd cael y geiriau mewn ffenestri gwydr yn cynnig delwedd o farddoniaeth i mi: dylai fod yn ddigon clir i daflu golau y tu mewn a thu allan i adeilad, yn cynnig golwg hollol neilltuol a lleol ar y byd; dylai ddatgan gwirionedd sydd yn dryloyw, yn grefftus ond hefyd yn fregus, ac yn fwy gwerthfawr o'r herwydd.

In these Stones Horizons Sing
('Gorwelion yn canu o fewn y meini hyn')

Roedd hi'n bwysig i fi nad oedd geiriau Saesneg yr arysgrifen yn gyfieithiad o'r Gymraeg, ond eu bod yn cyfleu eu neges eu hunain. Roedd strata llechi blaen yr adeilad yn gwneud i mi feddwl am y gorwelion ychydig y tu hwnt i Benarth. Bu'r môr yn gyfrwng i Gaerdydd allforio glo i bedwar ban a mewnforio'r byd at y ddinas. Bydd meini'r theatr yn canu'n llythrennol gydag opera, sioeau cerdd a cherddorfeydd, ac roeddwn yn awyddus i gyfleu'r syniad o ystafell enfawr ryngwladol yn cael ei chreu gan gerddoriaeth.

Bookmark this page / Llyfrnodi gyda