Books: Y Storm

Gwynewth Lewis - Y Storm

Y Storm Ar Faes Yr Eisteddfod

Am y tro cyntaf erioed mae Theatr Genedlaethol Cymru yn llwyfannu cynhyrchiad o un o ddramâu enwocaf Shakespeare mewn pabell........a hynny ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Mae 'Y Storm', sef addasiad newydd gan y bardd Gwyneth Lewis o 'The Tempest', yn ran o Ŵyl Shakespeare Y Byd (World Shakespeare Festival) y Royal Shakespeare Company a Gŵyl Llundain 2012, sef rhaglen gelfyddydol y Gemau Olympaidd.

Bydd yn cael ei berfformio, mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pontio a Citrus Arts, ar faes yr Eisteddfod ei hun gyda'r perfformiad cyntaf (rhagddangosiad / preview) ar Nos Fawrth 07 Awst 2012 am 5:30pm, ac yna Nos Fercher - Nos Wener 08-10 Awst am 7:30pm a Dydd Sadwrn 11 Awst am 2:30pm.

Mae aelodau'r cast yn cynnwys Llion Williams yn y prif ran, Prospero, Kai Owen fel Caliban a Meilir Rhys Williams fydd yn chwarae rhan yr ysbryd, Ariel. Mae'r cast hefyd yn cynnwys cyn enillydd Gwobr Goffa Richard Burton, sef Gwydion Rhys.

Bydd hefyd i'w weld 18-21 Medi 2012 ar safle'r sioe yng Nghaerfyrddin a 02-06 Hydref ar Stad y Faenol ym Mangor.

Mae'r addasiad newydd yma yn cynnwys cerddoriaeth fyw wedi'i gyfansoddi yn arbennig a gwaith corfforol herfeiddiol byd y syrcas gan gwmni Citrus Arts.

Meddai Elen Bowman, Cyfarwyddwr Y Storm: "Mae'r ymarferion dros y bedair wythnos ddiwethaf wedi mynd yn hynod o dda ond mae'n gyfnod heriol iawn i'r actorion a'r criw artistig gan fod Y Storm yn llawn agweddau cyffrous o syrcas, dawns, cerddoriaeth ac ychydig o hud a lledrith!"

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: "Mae cyflwyno 'The Tempest' i gynulleidfa Gymraeg, a gweithio gyda Gwyneth Lewis i archwilio beth sy'n digwydd i stori glasurol pan y'i llefarir yn Gymraeg - yn mynd i fod yn ddathliad diwylliannol arbennig ac edrychwn ymlaen yn fawr i weld ymateb y cyhoedd i'r cynhyrchiad mentrus hwn."

A Storm At The National Eisteddfod

For the first time ever, Theatr Genedlaethol Cymru will stage a production of one of Shakespeare's most famous plays in a purpose built tent.......on the National Eisteddfod of Wales field.

'Y Storm' is a Welsh language adaptation by Gwyneth Lewis of Shakespeare's classic 'The Tempest', and it is par t of the World Shakespeare Festival and the London 2012 Festival, the cultural programme of the Olympic games.

It will be performed, in association with Wales Millennium Centre, National Eisteddfod of Wales, Pontio & Citrus Arts on the National Eisteddfod field in Llandow, Vale of Glamorgan between 07-11 August 2012. There will be English surtitled shows on Wednesday & Thursday 08-09 August at 7:30pm.

Members of the cast include Llion Williams as main character, Prospero, Kai Owen (Torchwood) as Caliban and Meilir Rhys Williams will play the ghost Ariel. The cast also includes a former winner of the prestigious Richard Burton Memorial Prize at the Eisteddfod, Gwydion Rhys.

It will also be performed at Carmarthen between 18-21 September 2012 and the Vaynol Estate, Bangor between 02-06 October 2012.

This new Welsh translation includes live music that has been especially commissioned and the physical element of circus by Citrus Arts.

Elen Bowman, Director of Y Storm said: "The rehearsals have gone very well over the last four weeks, but it is a very challenging piece for all involved as Y Storm is full of exciting elements such as circus, dance, music and a little magic!"

Arwel Gruffydd, Artistic Director of Theatr Genedlaethol Cymru said: "Presenting this play to a Welsh audience, and working with Gwyneth to explore what happens to a classical story when it is spoken in Welsh - together with Elen Bowman's inventive directorship - will be a spectacular cultural celebration, and I look forward to see the audiences reaction to this production."

Bookmark this page / Llyfrnodi gyda