Y Llofrudd Iaith

Y Llofrudd Iaith

Os gall iaith farw, gall rhywun ei lladd. Pwy sy'n gyfrifol am y corff ar y staer a thranc ein miamiaith? Y bardd? Yr archifydd? Y ffarmwr? Mae'r pentre'n llawn o sibrydion a chymhellion tywyll, ac mae bwystfil peryglus yn crwydro'r mynyddoedd. At bwy y bydd Carma, y Ditectif, yn pwyntio bys? Ydych chi'n siwr nad chi sydd ar fai?

Nofel dditectif ar ffurf barddoniaeth yw trydedd gyfrol Gwyneth, gwaith beiddgar sy'n gyfraniad gwreiddiol i'r ddadl am ddyfodol yr iaith. Enillodd y casgliad wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru.
(Barddas, 1999)

Prynwch y llyfr

Bookmark this page / Llyfrnodi gyda