Datganiad i'r Wasg
Academi, 30ain Ebrill, 2005
Mae gan y Deyrnas Unedig ei Poet Laureate a chan yr Alban ei Makar. Mae gan y rhan fwyaf o daleithiau UDA feirdd taleithiol. Yng Nghanada mae ganddynt fardd llawryfog ac yn UDA mae Bardd Llawryfog Ymgynghorol. Ac yn awr, wedi chwe blynedd o ymgyrchu, mae Cymru'n penodi ei Bardd Cenedlaethol cyntaf.
Bydd Gwyneth Lewis, awdur cerdd fwyaf y byd (yr arysgrif ddwyieithog ar Ganolfan Mileniwm Cymru), enillydd un o gymrodoriaethau pwysig NESTA (Y Gwaddoliad Gwladol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau) awdur chwe llyfr o farddoniaeth mewn dwy iaith, enillydd Llyfr y Flwyddyn, libretydd, morwr, a bardd mwyaf adnabyddus Cymru mae'n debyg ers R S Thomas, yn cael ei hurddo'n fardd cenedlaethol cyntaf Cymru mewn digwyddiad arbennig yng Ngwyl y Gelli am 2.30 p.m. ar Fai 30ain eleni.
Mae penodiad Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru yn bosibl o ganlyniad i gyllid uniongyrchol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Penodiad am flwyddyn ydyw ond bydd modd dewis adnewyddu am ail flwyddyn. Gweinyddir y penodiad gan yr Academi, Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.
Dewiswyd Gwyneth Lewis yn unfrydol yn Fardd Cenedlaethol mewn cyfarfod yng Nghaerdydd yn ddiweddar gan grwp a oedd yn cynghori'r Academi. Mae aelodau'r grwp hwn yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol, Pwyllgor Diwylliant Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, y Gymdeithas Gerdd Dafod, Ty Newydd, Canolfan Dylan Thomas, Prifysgol Morgannwg a'r Gymdeithas dros Astudio Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg.
Mae gan Gymru draddodiad hir o werthfawrogi ei beirdd gyda chreu Bardd Plant Cymru bob blwyddyn a chadeirio a choroni beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol flynyddol. Y Bardd Cenedlaethol, serch hynny, fydd y penodiad cyntaf i wasanaethu Cymru gyfan a gwneud hynny drwy gyfrwng y ddwy iaith.
Bydd y Bardd Cenedlaethol yn gweithredu fel llysgennad diwylliannol i Gymru - gan nodi a dathlu ein bywydau trwy gyfrwng barddoniaeth. Bydd yn mynd â barddoniaeth i lefydd na fyddai fel rheol yn eu cyrraedd yn y maes cyhoeddus a phreifat. Yn wahanol i’r Poet Laureate yn Lloegr, ni fydd gofyn i Fardd cenedlaethol Cymru ysgrifennu barddoniaeth ar gyfer achlysuron ffurfiol penodol. Yn hytrach, bydd yn dilyn ei hawen ei hun. Mae Gwyneth Lewis eisoes wedi ysgrifennu cerdd am Gamp Lawn Cymru a marwnad i Gwynfor Evans.
Meddai Gwyneth Lewis: "Mae’n fraint aruthrol cael cynrychioli barddoniaeth yng Nghymru, lle mae gennym draddodiad barddol sy’n ymestyn yn ôl i’r chweched ganrif ac sy’n dal yn gwbl fyw yn yr unfed ganrif ar hugain." Meddai Prif Weithredwr yr Academi, Peter Finch, sydd wedi ymgyrchu’n hir dros greu Bardd Cenedlaethol: "Rwyf wrth fy modd bod gan farddoniaeth yng Nghymru o’r diwedd ladmerydd cenedlaethol. Gwyneth Lewis yw’r dewis perffaith." Dilynir sefydlu Gwyneth Lewis yng Ngwyl y Gelli gan gyfres o ymddangosiadau amlwg mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru.